Esther

Ciw-restr ar gyfer Y Dorf

(Negeswyr) Gosteg!
 
(Harbona) Y Brenin mawr Ahasferus at y Tywysogion, y Rhaglawiaid a'r Llywodraethwyr sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau o'r India hyd at Ethiopia.
(1, 0) 12 Gosteg!
(Harbona) Gan fy mod i, Ahasferus, yn Arglwydd ar genhedloedd lawer ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi ewyllysiais lywodraethu'n addfwyn, a gosod fy neiliaid oll mewn bywyd llonydd, a rhoi heddwch hyd eithafoedd yr ymerodraeth.
 
(1, 0) 14 Heddwch!
(Harbona) Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─
 
(Harbona) Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─
(1, 0) 16 Haman!
(1, 0) 17 Haman dda!
(1, 0) 18 Haman yr Agagiad!
(Harbona) Mynegodd Haman fod cenedl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, cenedl sy'n wrthwynebus ei chyfraith i bob cenedl arall, cenedl sy'n torri'n wastad ein gorchymyn brenhinol ni, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni ddim sefyll.
 
(1, 0) 20 Brad!
(1, 0) 21 Brad!
(1, 0) 22 Pa genedl?
(1, 0) 23 Pa genedl?
(1, 0) 24 Brad!
(Harbona) Cenedl yr Iddewon.
 
(Harbona) Cenedl yr Iddewon.
(1, 0) 26 Iddewon!
(1, 0) 27 Iddewon!...
(1, 0) 28 Gosteg!
(Harbona) Ninnau'n awr, gan wybod y modd y mae'r genedl hon wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, yr ydym ninnau yn hysbysu ac yn gorchymyn, drwy lythyrau at holl ddugiaid a thywysogion a llywodraethwyr pob talaith o'n hymerodraeth,─
 
(Harbona) Yn enw'r Brenin Ahasferus!
(1, 0) 32 Angau i'r Iddewon!...
(1, 0) 33 Seren Jwda i'r bedd!